Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Derwyn neu Pob Pant a Gyfodir (Nofel).djvu/9

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ARWEINIAD I'R CHWEDL.

SAIF Pentref neu Lan Llifon i fyny ryw dair milltir o'r gwastadedd, neu yn fwy manwl ar un o lethrau isaf y bryniau sydd yn rhedeg i lawr i Gwmwd Maelor. Y mae yn bentref tlws yn cael ei gysgodi â choed mawr praff, ac yn nghysgod yr hen Eglwys tafl hen Ywen fawr ei chysgod du i ddwfnhau y prydferthwch naturiol a'r hwn y nodweddir Pentref neu Lan Llifon, ac hynny gellir galw pob Llan yn brydferth a thlws gan fel y tebygant i'w gilydd, ond un o neilltuolion Llifon yw—ei fod yn bentref lled fawr, ac erbyn hyn yn ymestyn at fod yn rhyw fath o dref fach, gan fel y lluosoga ei drigolion, can's o fewn milltir neu lai mae y Pwll mawr, lle disgyn i'w grombil fil o lowyr, a chynwysa y Llan gryn nifer o'r glew- ddynion hyn, ac o ganlyniad ychwanegir at ei ddwndwr a'i helbulon. Felly, nid y tawelwch hwnnw o ba un y nodweddir Llannau y wlad yw yr eiddo Llifon, ond yn hytrach clywir cordd peiriannau mawr y lofa y dydd fel y nos, a'r nos fel y dydd, a diamheu fod gwrando arnynt yn llanw mynwes llawer un â phryder, canys y mae yn gorwedd yn y fynwent dawel, lawer un a anadlodd ei anadl olaf yn y Pwll du.

Y mae cryn nifer o dai gweithwyr y Pwll yn y rhan hwnnw o'r Llan a elwir yn Bant yr Afon, a gelwir y rhan fwyaf o honynt yn dai'r Wal, a siomir un yn fawr wedi iddo fyned i lawr yr heol gul i Bant yr Afon gan y fath