Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Derwyn neu Pob Pant a Gyfodir (Nofel).djvu/90

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

erbyn y Cymry a ma' Stork 'ma, ond ddeuda i chi, ddaru 'ne rwbeth ga'l 'i wneud na lase fo ddim pan ddoth o yma —ond arno fo 'roedd y bai am hynny. Mi gafodd i fygwth yn go arw, a dim ond i fygwth Mr. Jarvis. Fase'n well tase nhw wedi'i gario fo allan na g'neud fel daru nhw, a byth er hynny ma' fo fel yn rivengio arno ni."

"O, mi welaf," ebai Jarvis.

"Ia, cheiff yr un Cymro fynd yn ddim byd, os medr o ga'l Sais yn 'i le fo, Wn i ddim oes na—oes, dene'r hen Ddic Dafis, wrth gwrs, feder yr hen Ddic droi'i wyneb fel licith o—a Johnson, dene'r unig ddau; ond oedde nhw ene o dan yr hen Gornwal; ond dydi hynny ddim yn deud bod hi i fod fel ene o hyd. Dyn ydi Stork ac nid Duw, er ma fo'n meddwl i ni 'neud duw ohono fo. Ie, dyn ydi ynte, ac wyr o ddim pa funud y daw yr alwad, ond ma' nhw'n. deud 'i bod hi yn job reit galed ennill y stificate, yn tydi hi Mr. Jarvis? Ma' 'ne fachgen yn y Llan 'ma yn trio medde Bob. Ma' gyna fo lond y tŷ o lyfre."

"Pwy yde chi'n ddeud ydi o?"

"Bachgen i Samuel Jones, saer ydi'i dad o ar y gwaith."

"O, dwi'n meddwl mod i wedi clwed am dano fo, a ma' fo wedi ca'l dipyn o ysgol?"

"Ydi, Mr. Jarvis, a phob help gan 'i dad, a ma' nhw'n deud fod merch y Plas yn cymeryd sylw o hono, 'chos ma' fo'n fachgen neis, ac un sy'n g'neud llawer efo 'Steddfod y Pentre 'ma, a dene hoff beth aeres y Plas, ydi 'Steddfod a chanu, ac ma'i thad o ran hynny yn Gymro pur, a ma' nhw'n deud fod ganddi rwbeth i ddeud wrtho fo."

"Be ydi enw'r bachgen?"

"Emrys Cydwalad—ond siarad pobol ydi'r cwbl, achos