Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Derwyn neu Pob Pant a Gyfodir (Nofel).djvu/91

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

fu sôn ei bod hi i briodi Cyrnol Thorn o Benddol, a ma' ne rw stori fod o wedi deud rwbeth am y Cymry, yn rywle, a bod o 'di dwad i glust Eurwen, a 'chwedyn, fyne hi ddim sôn am dano fo. Wrth gwrs, 'de ni'n ca'l lot o bethe fel ene yn y Wal 'ma, a dichon bod nhw'n wir Mr. Jarvis, ond—" Yr oedd llygaid Jarvis yn ymloewi a ryw fath o ymhyrfydiad yn chware ar ei wedd wrth i Ann Jones gyffwrdd hanes Eurwen, a'r sylw a dalai y fenyw i bethau cyffredin y bobl, megis cyngherddau a chyfarfodydd o'r fath.

"Ac fe fyn rai ddeud," ebai Ann Jones, "ma' hi oedd achos i Derwyn Humphreys 'ne redeg o'i gartre, ond rw' siarad ffol ydi pethe fel ene, achos chlwes i 'rioed mo'r bachgen yn codi'i henw hi, ond ma' hi'n eneth hardd, a dichon i'r bachgen fynd o'i golwg hi, i geisio boddi'r meddwl fel byddwn ni'n deud."

"Wrth gwrs," ebai Jarvis," ma' i berson fel yna gymeryd sylw a g'neud dipyn o lanc, er iddo fod yn perthyn i ddosbarth is o ran 'i safle, yn aml iawn yn gwneud achos iddo un ai mynd o'r golwg, neu wneud cynnyg arni fel y byddyn dweyd."

" Wel, ma' nhw'n deud Mr. Jarvis, fod rwbeth yn cario yn y gwaed. Geneth dlawd oedd 'i nain hi, ond bod hi yn eneth hardd, a mi syrthiodd tad Syr Alwyn 'ma mewn cariad â hi, a 'does 'ne ddim byd yn uchel yn Eurwen, medde nhw, a galle rwbeth fel ene ddigwydd yn y teulu eto. Mi fydde mam wastad yn deud, nad ä mur cyfoeth byth yn rhy uchel i lygad serch allu gweled drosto."

Gafaelodd Jarvis yn ei lyfr, yr hyn oedd arwydd i fam Bob, ei fod wedi gwastraffu yr hyn a allai fforddio i siarad anniben, a gadawodd ef yng nghwmni myfyrgar ei lyfi tra hithau yn troi a throsi dillad gwaith Bob, i geisio a welai angen pwyth arnynt.