Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Derwyn neu Pob Pant a Gyfodir (Nofel).djvu/94

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

PENNOD XIII.

CURAI y g'law yn drwm ar y ffenestr. Boreu gwlyb oedd hwn, a chryn bellter o dŷ Bob at y Pwll.

Aethai y ddau gyda'i gilydd—Bob a Jarvis,—fel rheol at eu gwaith, a chlywid trwst clocsiau eraill ers meityn yn mynd i lawr yr heol gul o'r tu cefn i dŷ Ann Jones, un o brif heolydd y Wal.

Bob," bloeddiai llais crwn a chadarn. ebai un arall ymhen ychydig funudau.

"Tyrd Bob bach," ebai ei fam. "Dene John Tŷ top, a Simon wedi mynd." Ac ar hyn, rhoddai Jarvis ei lyfr o'r neilltu, ac fel rheol, byddai i Jarvis ychydig amser gyda'r llyfr i aros i Bob fod yn barod.

"Cymer di ofal Bob bach, a chwithe Mr. Jarvis." Dyna eiriau olaf Ann Jones i'r ddau bob dydd y gadawai y ddau y cartref am y pwll.

Byddai yr olygfa wrth ben Pwll mawr Llifon ar y cyntaf fore yn un neilltuol o darawiadol. Mil o leiaf yn dod o bob cwr o'r wlad, ac yna yn ffurfio yn ddwy reng hir, pedair wir, i aros y tro i ddisgyn i'r Pwll, ac yn fuan ar ol pump o'r gloch, clywid y knocker trwm, trwstfawr, yn taro ei nôd, arwydd fod y cage ar y gwaelod, ac yn barod i godi yn ol.

Pwll a chryn ddyfnder iddo oedd pwll mawr Llifon, dros saith cant o latheni, yn agos i hanner milltir, ac i'r cage neu'r ddalfa yr oedd tri deck neu lawr, a byddai oddeutu deg a'r hugain o eneidiau yn ymddiried eu hunain i'r rhaff ddur i'w danfon i'r gwaelod, a theithiai mor