Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Derwyn neu Pob Pant a Gyfodir (Nofel).djvu/95

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

aruthrol o gyflym, nes peri dychryn i rai am ddyddiau lawer—rhai a ddeuai o'r newydd i weithio i Bwll Llifon. Do, gwelwyd rhai yn agos llewygu gan effaith cyflymdra y ddisgynfa, a byddai hynny yn ddigon i beri iddynt beidio gwneud cynnyg eilwaith ar ddisgyn i'r pwll. Hefyd, clywais hanes rhai yn gwaeddi fel perchyll gan yr ofn, ond ychydig yw nifer y rhai hynny. Ond i sefyll wrth ben y Pwll; dacw reng o grytiau bach, wedi aros a taro ar ei gilydd fel y byddant yn gyffredin—tair ar ddeg i'r pymtheg oed, ac yn aros am y "ddalfa" i'r lan—un o honynt efallai am y waith gyntaf, ond ymddangosa mor ddihidio a phe buasai yn myned i'r ysgol, ac yn ei feddwl ei hun y mae yn arwr bach. Ymfalchia, ymhyfryda yn y ffaith ei fod yn cychwyn ar ei yrfa yn y pwll—ofn dim—nag arswyd, y mae ryw eofndra annirnadwy yn y rhan yma o fywyd plentyn y pwll.

Buan y llyncir y fath dorf o enau y pwll. Y mae ar fin chwech o'r gloch, ac mae rhes fawr yn cwtogi yn gyflym, yn y man daw Stork neu ryw is-swyddog gyda'i lusern a'i ffon, a chyn pen ychydig funudau bydd neb i'w weled, ond y rhai hynny sydd a gofal ynglŷn â'r rhan yma waith y lofa—a dene renc, renc, renc y twbiau glô yn disgyn oddi ar y ddalfa, yna glap trwm y llidiard yn disgyn ar enau y pwll wedi'r ddalfa ddisgyn yn ol i'r dyfnder, a dwndwr y peiriannau fel am ysu tawelwch y bore, ac i gyffroi yr holl fro.

Pe gellid dyfeisio X Rays a digon o rym ynddi i allu gweled byd tan-ddaearol Llifon, byddai yn olygfa ryfedd. Y mae y cannoedd glowyr erbyn hyn ar eu taith i'r talcennau glô, rai o honynt bedair milltir o ffordd, neb llai na