Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Dewi Idris.djvu/1

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon
DEWI IDRIS

Dewi Idris.
GAN CARNEDDOG.

NEITHIWR, ar ei hynt wibiog, dygodd angel adgof yn fyw i'm meddwl lawer gohebiaeth ddifyr a fu rhyngof, yn afiaeth bachgendod, â bardd ieuanc a gyfenwai ei hunan yn Dewi Idris. Brodor ydoedd o Abergynolwyn, a mab i Catrin a'r diweddar Lewis Lewis, o Heol Llanegryn. Y mae brawd iddo, o'r enw Robert Lewis, yn awr yn yr Amerig, yr hwn sydd yn fardd lled wych. Dywed cydnabod mwyaf craff Dewi,-a phwy ŵyr yn well na hwy? ei fod yn ddyn ieuanc hynod hoffus, ac yn aelod gweithgar gyda'r Anibynwyr. Ni chafodd addysg, ond ychydig o'r radd elfennol, ond ymboenodd lawer gyda meistroli rheolau barddoniaeth, nes y daeth yn englynwr pert. Yr oedd to o feirdd ieuainc medrus yn cyd-nyddu cynghaneddion âg ef yn yr ardal honno ar y pryd, megis Namorydd, Idwal Mai, Dewi Gwernol, a llu ereill. Cyn hir, daeth rhyw ysbryd ymfudol i aflonyddu meddwl y beirdd-chwarelwyr diddan hyn, a symudodd Namorydd i diriogaeth Awstralia, ac aeth y ddau arall i dueddau y Gorllewinfyd. Yn fuan, cafodd Dewi Idris y clwyf, a dilynodd ei gymrodyr Idwal a Dewi "dros donnau'r eigion mawr" oddeutu 1885.

Cyn cychwyn, anfonodd i mi ei ddarlun,[1] a llythyr tyner o ffarweliad, ac, yn awr, wedi treigliad cwrs o flynyddau, rhaid deall y bu troion yr yrfa yn bur chwith yn nglŷn â rhag-fwriadau hynt Dewi, ac i'r teimladwy y maent yn orlawn o ddyddordeb swynol.

Wedi cyrraedd Amerig, sefydlodd yn chwarelau West Pawlet, Vermont, ac yno daeth i gydnabyddiaeth cyfeillgar a agos i'r bardd ieuanc galluog Dewi Glan Dulas, a llawer o ddiddanwch llenyddol a gafodd y ddau Ddewi ar bwys eu hawen rydd. Yn hen rifynnau cynhwysfawr Y Drych, nid gwaith anhawdd yw taro ar eu cynhyrchion, gan eu bod mor liosog. Llwyddais i gasglu cronfa lled helaeth o weithiau naturiol Dewi Glan Dulas, er ei holl symudiadau, a hynny yn bennaf am ei fod yn fachgen genedigol o bentref Beddgelert, ac wedi bod yn yfed ysbrydiaeth rhyddid yr Eryri i'w galon wrth chwareu hyd fryniau cribog ein plwyf.

O gyfansoddiadau Dewi Idris, ni roddaf yma ond tair engraifft syml, a ffrwyth "caru'n ol fy ffansi" yw'r detholiad,—

MARWOLAETH IOLO TREFALDWYN.

Am Iolo Trefaldwyn, trwm yw'r cwynion
A gawn heddyw, ym mysg awenyddion;
Cerub o urddas, cawr y beirddion
Oedd Iolo anwyl,-o feddwl union;
Wylo, ysywaeth, wna teulu Seion,
Ow! am wr duwiol da th mawr adwyon.
Mawrhau'i lwch wna Cymru lon-a chofiant
Ol-oen gaunant ei dlysog geinion.


YR HEN LANC.

Un di-serch at lodes yw—yr hen fod,—
Gwirionaf o'i gydryw;
Ac adyn diolwg ydyw,
Gelyn i fun, y gwaela'n fyw.

Hyll lencyn, nad all wincio ar 'run ferch,
Yw 'rhen foy, 'rwy'n coelio,
Yn ei angen yn gwingo—
Gwael ei ran y gwelir o.

Rhian addas, rinweddol,—Ha! ni fyn
Hwn, yn fwyniant bydol;
Byw ei hun, mae'n anymunol
Yn wir, a'i ran oreu ar ol.


MAE ANN YN DAL YN BUR.

Mae Ann yn dal yn bur,
Nid ydyw am fy siomi,
Mae cariad hon fel dur
Yn anhawdd iawn i'w dorri
Bu llawer lleneyn glân
Yn cynnyg cael ei chalon,
Ond wrthynt dyma'i chân,—
"I Dewi 'rwyf yn ffyddlon."

Nid hoeden ydyw hi
A ddenir gan y llygad;—
Enillodd hon ei bri
A mawredd ei chymeriad ;
Hyd risiau dysg a moes
Y rhodia'n deg a gwastad,
Ar ol gwag chwantau'r oes
Ni senga ei cherddediad.

Yn fuan daw i ben
Yr adeg pan gawn fyned
O flaen yr allor wen
I osod sel ein tynged;
Ac wedyn dedwydd iawn
Y treuliwn, heb anghydfod,
A'n gilydd, einioes lawn
O gysur hyd y beddrod.


  1. Wele'r darlun ar gael, "wedi llawer blwyddyn."