Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Dewi Wyb (Ab Owen).pdf/18

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Ffynhonnau Hanes.
Prydu a wnaf, llwyraf lles,
Olrheiniaf lawer hanes,
Yn mhrif geirdd peu beirdd y byd
Caf wreiddyn cyfarwyddyd;
Destl ethol dystiolaethau,
Yn bur o hyd i barhau;
Dilys wybyddys yn bur,
Hen dreiglau, yn dra eglur,
Carneddau, ac enwau gânt,
Nid distadl, iawn y tystiant.

Swyn hanes Prydain.
Pe bai hanesion pob ynysoedd,
Au henwawg gyn-hoedlawg genhedloedd,
Oll gar bron yn fawrion niferoedd,
Llin Prydain iesin a'i dinasoedd,
Bro wen ei hanes, a'i brenhinoedd,
A ewyllysiwn drwy'r holl oesoedd.

Dadgân nos, dangos wna'r dydd,—waith enwog,
Holl ddoethineb Dofydd;
Prif folawd y Creawdydd,
Dan y rhod, Prydain a’i rhydd.

Afrifed yw dyledion—rhai aned
Yn yr ynys dirion,
Moli Ner, am le yn hon,
Yw galwad y trigolion.

Ym pa araith, wemp orawr,—a gynnwys
Dy ogoniant tramawr?
Pa iaith? pa gerdd, gwerdd ei gwawr,
A dderlun dy ddaearlawr?