Tudalen:Diliau Meirion Cyf I.pdf/10

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

mynyd basio, mai canmol er mwyn canmol oedd yr holl folawd o'r dechreu i'r diwedd. Y mae yn y Gwaith hwn deilyngdod syml a deifl garneddi o'r cyfryw i'r cysgod.

Nid ydym yn y sylwadau hyn yn ceisio codi y Gwaith hwn i'r dosbarth uchaf, ond yr ydym yn hơni iddo le yn rhestr barddoniaeth y wlad. Y mae ambell herlod wedi codi yn ddiweddar i fesur a phwysoy Beirdd, ac ni chaniatânt le i neb yn y rhestr ond y cyfeillion a'u molant. Cof yw genym am y ddadl ar adeiladaeth y Senedd-dai newyddion , pa un a ga'i Cromwell le yn mysg brenhinoedd Lloegr ai peidio: ac wedi chwilio, a mesur, a dyfalu, wele, yr oedd y lle yn rhy gyfyng i gerflun Oliver gael ei wthio i mewn rhyngddynt! Ond y gwir ydoedd, yr oedd cauad allan y Diffynwr yn gosod mwy gannwaith o hynodrwydd ar ei enw! Dichon na chafodd Awdwr DILIAU MEIRION le yn mysg y prydyddion breintiedig; ond nid oedd hyny yn ei gau allan o restr Beirdd ei wlad, mwy nac y gallasai culni rhagfarn gloi Cromwell allan o restr llywyddion Brydain Fawr.

Hyderwn y caiff y Llyfr hwn y derbyniad a deilynga, ac y caiff yr hen Fardd ei loni yn fawr wrth weled fod i'w Waith le yn serchiadau darllenwyr drwy yr holl wlad. Dyma ei brif nôd a'i ddymuniad ef. Dywedodd un awenydd, "Yr wyf fi yn foddlon i chwi gael gwneud cyfreithiau fy ngwlad, os caf finnau wneud ei chaneuon." Felly y dywed yr Awdwr hwn. Y mae ysbrydoliaeth yr Awen, yn ddiweddar, dan obaith mwynhad oddiwrth y DILIAU, wedi bod yn foddion i godi ei feddwl, ac adfywio ei nerth corfforol, wedi cystudd gorweiddiog hirfaith o saith mlynedd, fel y mae erbyn hyn dan adferiad eilfydd i adgyfodiad neu greadigaeth o newydd! Caiff eraill gymeryd arnynt yr holl ofalon bydol, os mynant, ond iddo yntau gael gwasgu digon ar DDILIAU yr awen.

R. PARRY (Gwalchmai.)

FFESTINIOG, Meh. 25, 1853.