Tudalen:Diliau Meirion Cyf I.pdf/116

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon
Y FFORDD
O DREMADOG I FAENTWROG.

MUDAIS oddiwrth Dremadog—drwy dywod
A daear wlybyrog,
Daethym mor gyflym a'r gog
Mewn teirawr i Maentwrog.


Ffordd domlyd, fawlyd, anfelys,—geisym,
Un gas a pheryglys,
Llaid a baw, nid oedd lled bys,
Felly, yn ol fy 'wyllys.


"TELYN EGRYN."

Dilys caed newydd Delyn—etholwych,
O waith Elen Egryn,
Pob sill o'i mydrau dillyn
A rydd ddywenydd i ddyn.

Mynwch, y Cymry mwynion,—gorenwog
Rianod a meibion,
I'ch meddiant, wycha' moddion,
Y Delyn rwydd hylwydd hon.

Telyn y caiff pob teulu—o'i harfer
Ei hirfaith ddyddanu;
A thôn cân ai thannau cu
Gwyd genedl i gydganu.

Rhïanod mawr eu rhinau—wych reol,
Chwareuant ei thannau,
A'i pheraidd lwysaidd leisiau
Yn llawn hwyl wna'u llawenhau.