Tudalen:Diliau Meirion Cyf I.pdf/131

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Rhai welir ar eu haelwyd,—yn gulion,
A gwelwedd wynebllwyd,
Ar rynu gan fawr anwyd,
Ac hwyrach rhy fach o fwyd.

Llwydaidd yn mhob dull ydynt—a dillad
Go dyllog sy ganddynt,
Gwrthddrychau'n ddiamhau ynt
Sy'n werth i syniaw wrthynt.

Ochain yn wan eu hiechyd,—dihoeni,
A'u heinioes yn aethlyd,
Dyddfu mewn annedwyddfyd
Mae degau drwy barthau'r byd.

Ow! ' rhai bach, mae'n arw eu bod—mor adill,
Mawr ydyw eu rhyndod;
Pwy all ddweyd maint eu trallod,
A'u braw dan gurwlaw ac ôd.

Rhwyddaidd gyfranu rhoddion—yn wiwlwys
A wnelo'r boneddion,
I eiddilod tylodion,
Yr adeg gaeth rwydawg hon.


OEDRAN

MEURIG EBRILL AC ISAAC JONES O'R LLWYN,

Yn y flwyddyn 1850

TR'UGAIN a deg, 'rwy'n mynegi,—'n gyfan
A gefais o flwyddi
Eisoes, faint etto i oesi
Sy gan i'n ol nis gwn i.