Tudalen:Diliau Meirion Cyf I.pdf/138

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Ffei! aros wrth у fferi—am oriau
Bu Meurig mewn oerni;
Ystyriwch mewn tosturi
Fod awr yn rhy fawr i fi.

Dau ddynyn diddaioni—dir ydych,
A rwydwyd gan ddiogi;
Ar dymhor oer rhaid i mi
Deithio'r nos o'ch achos chwi.

Ni feiddiaf, rhag ofn im ' foddi,—mwy byth
Fyn'd mewn bâd ar weilgi;
Aed cwch tyllog i'w grogi,
Nid da'r môr, ond tir i mi.


I OFYN YSGYFARNOG

GAN THOMAS HARTLEY, YSW. (BARDD IDRIS).

At Fardd Idris ar hyd grisiau—hylithr,
Gan hwylio fy nghamrau,
Yn o swrth 'rwyf am nesâu
Min nos, fel dyn mewn eisiau.

Dyn gwan a â dan gwyno—yn fynych
I'r fan caiff ei wrando;
Angen bair iddo wingo
Heb baid, mae'n rhaid, rhaid rhoi tro.

Minnau'n awr, y mwyn wron,—anturiaf
Cyn tòri fy nghalon
I'ch gwydd yn rhwydd yr awr hon,
Yn nghanol blin anghenion.