Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Diliau Meirion Cyf I.pdf/143

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Cadwaladr doethgadr ŵr da—ma unwyd
A'i anwyl Marïa;
Hawddamori'r ddau yma—a digoll
Oreudeg arfoll ar hyd eu gyrfa.

Mewn bri hir oesi'n rasawl—a gaffont,
Yn gu hoff a siriawl,
Dan aden gref Duw nefawl,
A gwynfyd o hyd i'w hawl.

Mal Abram ddinam ddoniau—a Sarah,
Seirian ei chynneddfau,
Byw mewn cariad, c'lymiad clau,
Y byddont hyd eu beddau.

Eu hil wiw ferth o'u hol a fo—gannoedd,
Yn gwenawl flaguro;
Cu rinwedd a'u corono
Yn delaid, freiniaid y fro.


Y SER

MAE'R ser yn uchder y nen—oddiarnom,
Yn addurno'r wybren;
Eu drych sy'n burwych dros ben
Ar ol machludo'r heulwen.

Heirdd lampau golau, gwiwlon,—a dysglaer,
Megys dysglau gloewon;
Fe daera'r prif awduron
Mai bydoedd yw'r lluoedd llon.

Lloer a ser, eu lleuer sydd,—dealler,
Yn deilliaw'n ysblenydd,