Tudalen:Diliau Meirion Cyf I.pdf/149

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Os egyr ddrws ei ogo'—mewn dychryn
Mae'n dechreu clustfeinio,
Rhag i gwn, frathgwn y fro,
Draw o'r wig droi i'w rwygo.

Y Sabbath ni fyn seibiant—mae'n gwibio
Mewn gobaith am borthiant;
Ni wna swn corgwn ddau cant
Ei drechu i ladd ei drachwant.

Hèria bawb (hir yw ei ben)—y Sabbath,
Gau swbach aflawen;
E ddaw'r nos, pan dduo'r nen,
I'w geudwll yn un goden.

Ac yno bydd coginiaeth—heb attal,
A bwyta'r ysglyfaeth,
Fu'n hela i'w gigfa gaeth
Hyd y fro, mewn difrïaeth.

Wyn gwâr, ac adar gwiwdeg—yw'r abwyd,
A reibia'n ddiattreg;
Gwedyn, â phoer gwyn o'i geg,
Chwennych ysglyfio 'chwaneg.

Ar fyr fe ddaw ryw forau—ddaeargwn
Yn ddirgel fel bleiddiau
Dros y ffos, ar draws ei ffau
Ddrewllyd, i'w dynu'n ddrylliau.

Ac wed'yn gwneir ergydio—ei esgyrn
Ar wasgar oddiyno;
A gerwin fydd y gawrio
Darfu ei rwysg dirfawr o.