Darbodus, hoffus yw hi,—hap siriol,
Heb soriant na choegni;
Mewn llawn serch ei gwir berchi—a ddylid,
Dan droi'n gwir ryddid yn dringar iddi.
Ni thry'i chefn heb iawn drefnu—achosion
A chysur ei theulu;
Puredig ddarpariadu
Mae'n wastad mewn cariad cu.
Dan ei bron dirion nid oes—yn llechu
'Run llwchyn o anfoes,
Na du ragfarn na drygfoes,
Nag un gradd o gynhen groes.
Dilys y gwna â'i dwylo—ei gorchwyl,
Gan chwai gyrchu ato;
Mewn gwirionedd mae'n gryno,
A drych hyfrydwych y fro.
I'w thylwyth, mewn iaith olau,—y dyrydd
Dirion addysgiadau;
Enaid y gwir, ac nid gau,—ddaw'n gyson,
A ffriwdeg union yn ffrwd o'i genau
Fel yna dybena bill,
Mêr gobryn Meurig Ebrill.
Y PARCH, BENJAMIN PRICE
(CYMRO BACH,)
GOHEBYDD FFRAETHBERT Y GYMRAES.
HENFFYCH well, medd pawb bellach,—wiw hybarch
Ohebydd disothach;
P'le ceir coeth awdwr doethach,
Ac mor bert a'r Cymro Bach?