Tudalen:Diliau Meirion Cyf I.pdf/16

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Enyd hir yno tariodd—yn ufudd
Iawn hefyd gwas'naethodd;
Ffafr y distain, fadiain fodd,
Yn hollawl a ennillodd.

Llywyddiaeth ei holl eiddaw,—gu flaenor,
Gyflwynodd i'w ddwylaw ;
Ni omeddodd ddim iddaw,
Drwy wg ffroch, ond ei wraig ffraw .

Ond och! ei feistres un dydd,
A golwg ddigywilydd
Yr hen Aifftes ddiles, ddu,
Gas ddynes, geisiai'i ddenu
A'i swynaidd, hudolaidd did,
I findorch - gwarth aflendid!
D'wedodd y pur gredadyn,
Mwyneiddgar, ddiweirgar ddyn,
"Mawr yw f'ymdrech rhag pechu
"O flaen Ior mâd, Ceidwad cu ;
"Yn ddiau fyth ni ddeuaf fi,
"Satan, yn agos iti."
Wed'yn yn ffraw, draw fe drodd,
Was enwog, ni chydsyniodd
A'i diewlig hell hudoliaeth,
Ffoi o'i gwydd yn ebrwydd wnaeth ;
A'i wisg adawai o'i ol
I'r hoeden ddengar hudol.
Y gwaraidd ffyddiawg wron,
Di warth weinidog Duw Ion,
Ni wnai, a'i feistres na neb,
Gyduno mewn godineb ;
Myg odiaeth yr ymgadwai
Rhag gwarthus, ryfygus fai.