Tudalen:Diliau Meirion Cyf I.pdf/171

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Ei chweg gain wiwdeg ganiadon—gorwych,
A gerir gan Frython
Tra rhed dw'r, tra rhua tòn,
A'r môr wrth odre Meirion.

Mewn bri, fel meini mynawr,—hyd foreu
Adferiad o'r dulawr,
Y gu lefn ferth golofn fawr,
Bydd yna uwch bedd Ionawr.


GWALLT GWYN.

A gyfansoddwyd wrth edrych ar hen gyfaill.

Yn ben coch y bu'n cychwyn—ac eilwaith
Fe'i gwelwyd yn felyn,
Gwyddys fod gwallt y gwiwddyn,
Hawdd i ni weld, heddyw'n wyn.

E rydd hyn arwydd hynod—tra eglur,
Mai trigle y beddrod
Yw'r fan cei'n bur fuan fod,
Dy yrfa sydd bron darfod.



MYNEDIAD

Y BARDD MEWN CWCH I ABERMAW.

DAETHOM yn hawdd hyd Fawddach—dan hwbian
Heibio Aberamffrach;
Yn bwyllig ni gawn bellach
Laniaw yn Abermaw bach.