Tudalen:Diliau Meirion Cyf I.pdf/182

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Cais wir ddoethineb yn ddiball,
Cais berffaith ddeall hefyd,
Na wyra chwaith o'r llwybr cu
Sy'n arwain fry i'r bywyd.

Byth nac ymâd, er allo neb,
A gwir ddoethineb nefol,
Ond car hi'n fwy na dynol gêd,
Hi'th wared yn dragwyddol.

Y penaf peth yn drysor gwiw
I'th enaid yw doethineb,
Ac â'th holl nerth a'th gyfoeth mâd
Cais ddeall a duwioldeb.

Dyrchafa di ddoethineb dda,
Cei wledda mewn cu lwyddiant,
A hithau a'th ddyrchafa di
I fythawl fri heb fethiant.

Doethineb nef rydd i ti hawl
O annherfynawl fwyniant,
Ychwaneg ras i'th ben rydd hon,
A choron o ogoniant.

Gan hyny gwrando'n awr, fy mab,
A derbyn f'arab eiriau,
Blyneddoedd d'einioes a sicrheir,
Ac amlheir dy ddyddiau.

Dy ddysgu'r ydwyf heddyw'n ddir
Yn ffordd y wir ddoethineb,
Ac yn dy dywys yn ddiwâd
Yn llwybrau mâd uniondeb.