Tudalen:Diliau Meirion Cyf I.pdf/187

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Myfi, Doethineb, driga'n nghyd
A chall dduwiolfryd gwiwlan;
Gwybodaeth, cynghor, yn ddiffael,
'Rwyf fi'n ei gaffael allan.

Can's ofn yr Arglwydd yw casâu
Niweidiawl ddrygau balchder,
Ac uchder ysbryd drwg ei naws,
A'r genau traws ysgeler.

Mi bïau gynghor uwchlaw neb,
A gwir ddoethineb hefyd;
A deall ydwyf o fawr werth,
Mi bïau nerth a bywyd.

Trwof fi teyrnasu yn dda
Ar ddynion wna brenhinoedd,
Penaethiaid hefyd wnant iawn farn,
Yn gadarn mewn brawdlysoedd.

Trwy f' addysg i rheoli wna
T'wysogion yn dra hawddgar,
A'r pendefigion fyddant bur,
A duwiol farnwyr daear.

Y sawl a'm carant yn ddiau
A garaf finnau'n hylwydd;
A'r sawl a'm ceisio'n fore iawn
A'm cânt drwy lawn foddlonrwydd.

Gyda myfi mae cyfoeth mâd,
Yn nghyda rhad anrhydedd,
A golud a chyfiawnder mau
Sydd i barhau'n ddiddiwedd.