Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Diliau Meirion Cyf I.pdf/188

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Gwell yw fy ffrwyth i nag aur coeth,
Mae'n gyfoeth anllygredig,
A'm cynnyrch sy'n rhagorach rhan
Nac arian detholedig.

Hyd ffordd cyfiawnder mewn iawn hwyl,
Rai anwyl, y'ch arweiniaf;
Ac ar hyd canol llwybrau barn
Eich Llywydd cadarn fyddaf.

Pair hyn i'r rhai a'm caro'n gu
Gael etifeddu sylwedd,
A llanw eu trysorau wnaf
Ac a'u mawrhaf yn rhyfedd.

Yr Arglwydd a'm meddiannodd i
A hylwydd fri yn helaeth,
Cyn iddo 'rioed amlygu'n g'oedd
Weithredoedd creadigaeth.

Er tragwyddoldeb, cyn bod dim,
Mewn iawnwisg y'm heneiniwyd!
Cyn crëu y nef na'r ddaear lawr,
Mor wiwgar y'm mawrygwyd!

Pryd nad oedd dyfnder i'w goffâu,
Na phrenau na dyffrynoedd,
A chyn bod ffrydiol lesol iawn
Ffynhonau'n llawn o ddyfroedd,

Cyn gosod seiliau cedyrn clir
Mewn addurn i'r mynyddau,
O flaen cyfleu mewn prydferth ddrych
Yr holl fireinwych fryniau,