Tudalen:Diliau Meirion Cyf I.pdf/19

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Phar'o a deg fynegodd—aralleg
O'r oll a freuddwydiodd,
Yntau mewn ffur, fwynbur fodd,
Dianglod, a'i deonglodd.

Mynegai'r sant mwyn agwedd—a duwiol,
Y deuai saith mlynedd
O amldra gwiwdda mewn gwedd
Odidog, drwy'r holl dudwedd.

"Coelia, fe ddaw i'w ca'lyn—i'th orawr,
Saith eraill o newyn;
"Par'to," eb ef, "y pryd hyn,
Na arbed, yn eu herbyn."

"Gan hyny, gwna yn union—ymorol
"Am wr doeth a ffyddlon,
"A gosod ef yn gyson
"Olygydd, a llywydd llon.

"Ffraw ethawl casgled ffrwythau—cain odiaeth
"Y cnydiawg flynyddau;
"Boed iddo iawn gludo'n glau
"Rad luniaeth i'r ydlanau .

"Cadwer yd mewn modd hydyn—ddigonedd
"O gynnyrch pob blwyddyn;
"Ceir toraeth helaeth drwy hyn
"Dan awyr, pan daw newyn."

Phar'o draethai'n hoff hyrwydd,"—Da Ioseph,
"Dewiswn di'n ebrwydd;
"Seirian fab Jacob sywrwydd,
"Teg was Ion, ti gei y swydd.