Tudalen:Diliau Meirion Cyf I.pdf/194

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

A llawenhau wnaent hwythau'n awr
Am adgyfodi'r Ceidwad mawr.

Addewid iddynt a roes ef,
Pan yr esgynai fry i'r nef,
Caent eu bedyddio â nefol dân,
Sef gweithrediadau'r Ysbryd Glan.

Cyflawnodd ei addewid fawr,
Ar ddydd y Sulgwyn daeth i lawr,
Fel nerthol wynt yn rhuthro'n gry',
Nes i'w effeithiau lenwi'r tŷ.

"Ewch a phregethwch," ebai ef,
" I bob creadur dan y nef,
" Cyhoeddwch yr efengyl hon
" Dros holl derfynau'r ddaear gron.

"Pob un a gred, cadwedig fydd,
" Trwy fywiol wir effeithiau ffydd; "
Mynegu'n llawn un dawn nid oes
Anfeidrol haeddiant gwaed y groes.

Gwynebu wnaethant ar wahan
I holl gyffiniau'r byd achlân,
A lluoedd lawer yn mhob gwlad
A gredodd eu hymadrodd mad.


ADGYFODIAD Y SAINT

FE welir cyrff y saint
Yn ddysglaer fel y wawr,
Yn d'od i'r lan o'r bedd,
Pan gano'r udgorn mawr;