Prawfddarllenwyd y dudalen hon
"Yn gadarn cei'th iawn godi—o benyd
"I binagl uchelfri;
"Rhyfeddawl bor a fyddi,
"Mawr ei nawdd ger fy mron i."
Ioseph, mewn rhwysg dieisawr—urddaswyd
Yn hardd iesin flaenawr;
Gawriai pawb yn mhob gorawr,
"Llwydd—Amen—i'n llywydd mawr. "
Yn llaw Dduw Ner llwyddo wnaeth—drwyaddurn
Ei dreiddiawl wybodaeth;
Yn hylaw raglaw yr aeth,
Llwyr deilwng, a llyw'r dalaeth.
Diwydiawl a da odiaeth—weinyddodd,
Dan nodded Rhagluniaeth;
Einioes y llu, o'i ddeutu ddaeth,
Arbedwyd drwy'i ddarbodaeth.
DEBORA A BARAC
Gwedi Ehwd frwd ei fron—eiddigus,[1]
Roi'i ddager drwy Eglon,
A gwneuthur ger disbur don
Trylanastr o'i elynion,
Ar ol hyn ca'dd Israel hedd—dirwygiad
Bedwar ugain mlynedd,
Heb un dremyg boen dromwedd,
Na chlwyf gan saethau na chledd.
- ↑ Dechreua yr Awdl uchod yn Barn . iii. 21, a dybena yn niwedd y v, sef " Cân Debora a Barac."