Tudalen:Diliau Meirion Cyf I.pdf/41

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Codi llef a wnaeth hefyd
Yn ei braw ar hyn o bryd,
Ei huchenaid a'i chwynion
Oedd rwygiad a brathiad bron;
Yno mewn chwerwder enaid
Gruddfanu y bu'n ddi baid;
Ei threm oddiwrtho ni throdd,
A diwâd fel hyn d'wedodd,—

"O, ŵr Duw, 'rwy'n cofio'r dydd
"Y daethost fel ymdeithydd,
"A rhydd genadydd y nef,
"Yn hyddestl iawn i'n haddef;
"Da gwn mai ein digoni
"Ar fyd tost a ddarfu ti:
"Ond yn awr, brophwyd mawr a mâd,
"Ofnadwy yw'r cyfnewidiad!
"Dylif o ddybryd alaeth
"I'm hoerion ddwyfron a ddaeth;
Pa irad fai fu'n peri
"Iť ladd fy mab arab i ?
Ha! addien fab, heddyw'n fyw,
"D'wedaf, och fi! nid ydyw!
"Dyddanwch, er dydd ei eni,
"Ow, ow, fy mab! a fu i mi:
"Trwm hiraeth tra anmharol,
"Ow! gwae fi! a gaf o'i ol.
"Fy mab, fy mab, ni chaf mwy
"Dy gyfarch drwy deg ofwy!
"Mae'n swrth yn fy mynwes i
"Yn awr, a'i gnawd yn oeri!
"Fy mab llâd, mad yn mhob modd,
"Drwy ingawl boen a drengodd!