Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Diliau Meirion Cyf I.pdf/58

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Ond Jehu a'i handwyodd—yn union
O'i nenawr disgynodd;
Tua'r hwyr yntau a'i rhodd
Yn safnau'r cwn—nis ofnodd.

Llyfwyd ei gwaed ' rol llefain—gan ddiriaid
Gynddeiriog gwn milain;
Chwalu a rheibio'i chelain
Yn eitha' rhwydd wnaeth y rhai'n.

Dyna ben am dani byth,—ac Ahab,
Coeg ehud deyrn gwarsyth;
Nolwyd y ddau annilyth
Gan safngwn annwn i'w nyth.

Dau oeddynt yn eu dyddiau—â ffyrnig
Uffernol galonau,
Weithion fe'u poenir hwythau
Yn ffwrn boeth hen uffern bau.

I echryn derfyn y daeth—yn boenus,
Bob un o'u hiliogaeth;
Jehu, 'n gawr nerthfawr, a wnaeth
Roi'r rhelyw i farwolaeth.

Da eiriau Duw a wiriwyd—i'r eithaf,
A draethodd y prophwyd;
Tŷ Ahab, anarab nwyd,
Oedd foethus, a ddyfethwyd.

Dylion addolwyr delwau—rai anmhur,
Ga'u rhwymo'n ysgubau,
Bwrir hwy oll i beiriau
Llosgfaol, uffernol ffau.