Tudalen:Diliau Meirion Cyf I.pdf/65

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

G'ronwy, â'i ffraeth gywreiniawl—gu awen,
Wnaeth gywydd duchanawl
I'r crinwasdiras, a'r diawl,
Hen ffyrnig deyrn uffernawl.

Eu dull osodai allan—a'u dichell
Fradychus yn mhobman,
A'u dieflig nwydau aflan
Llawn twyll, yn nghanol llyn tân.

Minnau, fel gwael rimynwr,—hyn wnaethum
I ddynoethi cyflwr,
Crwba ddulwnc cribddeiliwr,
Drygionus, drawswarthus ŵr.

Prin gwnaf fi henwi hanner—y drygau
Wna'r dreigydd ysgeler;
Pa gyfrifydd sydd dan ser
Y nefoedd, ŵyr eu nifer?

Twyllwr treisgar, ysglyfaethgar,
O dyb anwar, ydyw beunydd,
Adyn siomgar, fel twrch daear,
Nwyd anwiwgar, nid enwogydd.

Hylldremia, brydia mewn brad—fel llwynog
Fo'n llawn o ddichellfrad;
Rhyw wancus, farus fwriad,
Ganddo sydd beunydd heb wad.

Lefain malais, trais aeth trwy—ei fenydd,
A'i fynwes lygradwy;
Chwyrn uda'n ddychrynadwy,
Moes! moes! moes! mae eisieu mwy!