Mal adyn gwna ymledu—am chwaneg,
Mae'n chwennych pentyru,
A'r cwbl a ball ddiwallu
'R bawaidd dwrch mwy na'r bedd du.
Dygn yw ei wanc, digon ni wel—llunia
Gynllwynion yn ddirgel,
Mae'n llew du y man lle del,
Annichon bron ei ochel.
Ah! 'r cuchiog gibog gybydd—haiarnaidd,
Pwy ddirnad ei awydd?
Rheibio, cribinio beunydd
'Run sut a'r barcut y bydd.
Taeraidd orthrymwr teryll—echrydus,
A chreadur erchyll;
Surfalch gribddeiliwr serfyll
Yw'r gwanciwr a'r rheibiwr hyll.
Rheibiwr, a lleibiwr enllibus—meusydd,
Gormeswr trachwantus;
Bywioliaeth dyn helbulus
Ddinystria'r epa'n ddi rus.
Gwae'r hwn sydd, gerwin swyddau,—'n cydio maes
Gyda mawr drachwantau,
Nes bo'r gwan heb drigfanau
O waith yr hyll gipyll gau.
Rheibia, yspeilia, nis paid—faedd annw'n,
Feddiannau trueiniaid;
Gwena pan welo'r gweiniaid
Dan dristwch mewn llwch a llaid.
Tudalen:Diliau Meirion Cyf I.pdf/66
Gwedd
Prawfddarllenwyd y dudalen hon