gyda'r sirioldeb a'r parodrwydd mwyaf. Gallai y cyferfydd rhai ag ambell erthygl yn y llyfr na fydd yn cyd - daro yn dda â'u harchwaeth ; ond nid oes genyf well cynghor i'w roddi iddynt na choffâu hen englyn o waith Jonathan Hughes, yn ei gyflwyniad o'i lyfr, " Bardd y Byrddau," i'w gydwladwyr gynt, a dyma fo, os wyf yn cofio,
"Praw'r seigiau, byrddau diball,—o'r dysglau
Pirun orau, praw' un arall;
Oni ddoi yno'n ddiwall,
Cymro llon, cymer y llall."
Felly, yr wyf yn meddwl fod yn y Diliau hyn gymaint o amrywiaeth ag sydd mewn un llyfr o'i faintioli a ymddangos odd etto yn y Gymraeg, er nad yw heb lawer o wallau.
Tybiwyf nad anmhriodol fyddai crybwyll yn mhellach, er fy mod yn bleidiwr gwresog i'r mesurau caethion, ni chyfansodd ais erioed ond ar saith neu wyth o honynt; ac ni ddilynais y rhai hyny yn gwbl fel y sefydlwyd hwynt gyntaf, ond arferais roddi ychwaneg o linellau yn rhai o honynt, sef Hir a Thoddaid, a Byr a Thoddaid. Hefyd, ni phetrusais roddi 8 sill yn lle 7 weithiau mewn llinellau Deuair Hirion, ac esgyll Englyn Unodl Union, os gwelwn fod y synwyr yn gadarnach drwy hyny.
Dymunwn gyflwyno fy niolchgarwch gwresocaf i bawb sydd wedi bod mor ymdrechgar i gasglu enwau Tanysgrifwyr at fy Llyfr: taled yr Arglwydd yn ddau-ddyblyg iddynt am eu cymwynasgarwch.
Terfynaf yn awr, gan ddeisyf eich nodded a'ch cydymdeimlad â henaint a phenllwydni, yr hyn yn ddiau a wna y Beirdd a'r Llenorion campus a diragfarn, er nad wyf yn dysgwyl hyny oddiwrth y crachfeirdd a'r crachfeirniaid . Byddwch wych, Gyfeillion anwyl, yw gwir ddymuniad
Eich gostyngedig Ewyllysiwr da,
MEURIG EBRILL.
DOLGELLAU, Meh. 27, 1853.