Tudalen:Diliau Meirion Cyf I.pdf/88

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Mawr golled a thrwm argyllaeth—ddeddyw
Ar ddydd ei farwolaeth;
Pregethwr, awdwr odiaeth,
A mawr iawn oedd; ond marw wnaeth!

Gwr o ddawn gwiwgar oedd ef — un hyddysg,
Anhawdd cael ei gyfref;
Dwyslawn mewn hyfryd oslef,
Llafuriawdd dan nawdd Duw nef.

Gweinyddai'n ogoneddus—wrth reol,
Wir athrawiaeth iachus,
Geiriau Nêr, nid gerwin ûs,
Neu ryddiaith anwireddus.

Duwinydd cadarn, iach ei farnau,
Agwrdd odiaeth ei gyrhaeddiadau,
Llon arweinydd yn llawn o rinau,
Cyson awdwr, cu ei syniadau;
Bri ei goethion bregethau—ddangosant,
Hoff urdduniant ei hyffordd ddoniau.

Lles hynodawl lluaws o eneidiau,
Fu llafur didwyll ei fyfyrdodau,
Dewr a chedyrn oedd ei ymdrechiadau
I ddwyn, mal bugail, ei gail i'r golau;
Ac addurn ei agweddau—oedd wastad,
Heb wyrni girad mewn barn na geiriau.
Gwiwlon efrydydd glân ei fwriadau,
A gwirfoddolydd treiddgar feddyliau,
Dihalogedig, da'i olygiadau,
Athraw gweinyddfawr, uthr ei gynheddfau,
Perarogl oedd pur eiriau—'i athrawiaeth,
Dirper odiaeth yn llawn darpariadau.