Gwyliadawl fugail ydoedd—idd ei braidd,
Bu ddibrin o'i wleddoedd;
Gwnaeth ei ran, a'i amcan oedd
Diwallu'i ddeadelloedd.
Un llawn pwyll, didwyll nodedig—doethaidd,
A'i deithi'n goethedig;
Tawel frawd duwiolfrydig—oedd heb wâd,
A'i dda wiw rodiad yn ddiwyredig.
Er hardded, wyched ei wedd—ddianaf,
Ei ddoniau a'i rinwedd,
Dygwyd ei gorff o'i degwedd
Yn forau i bau y bedd.
Ei ganaid enaid union—a godwyd
Gan gedyrn angylion
I'r nefolaidd, lwysaidd, lon,
Fad araul wynfa dirion.
Mor ddinam yn mhlith myrddiynau—o deg
Gadwedigol seintiau,
Mae'n moli Nêr, Muner mau,
Yn Salem, ddinas olau.
COFFADWRIAETH
THOMAS HARTLEY, YSW., LLWYN, DOLGELLAU.
Bu farw Awst 28ain, 1850.
Teyrn engyrth terwyn yw angau—orfydd
A'i arfog genadau,
Holl ddynawl fydawl fodau,
Hyd feithder, pellder pob pau.