Tudalen:Diliau Meirion Cyf I.pdf/9

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

RHAGDRAETH

GORCHEST Barddoniaeth ydyw bod y meddyliau yn newydd, yn darawiadol, ac yn aruchel; a'r iaith â pha un y byddont wedi eu gwisgo yn goethedig, yn ddillyn, ac yn eglur. Pa le bynag y byddo cyfansoddiad o'r fath, y mae yn sicr o gael ei ddarllen a'i wrando gyda mwy o ystyriaeth a theimlad nac unrhyw draethiad cyffredin. Goleuo, cynhesu, a boddhau, ydyw effeithiau nodweddiadol gwir awenydd. Os na bydd y pennill yn taro yn fwy grymus ar y glust a'r galon na rhydd iaith , nid barddoniaeth ydyw. Gall pob dyn rimynu, ond nid pawb a all gyrhaedd y teimlad byw.

Y mae Barddoniaeth Meurig Ebrill yn eglurhad ymarferol ar hyn. Nid ydym yn mynegu hyn heb ystyried fod ganddo ddarnau diffygiol; ond ar y cyfan, a'i gymeryd oll yn nghyd, ceir ei fod yn ateb i reol prawf barddoniaeth. Y mae ei linellau yn syml, heb fod yn ddiaddurn; y maent yn gyffredin, heb fod yn annaturiol; y maent yn ddealladwy, heb fod yn isel; y maent yn dlws, heb fod yn rhodresgar; ac y maent yn nerthol, heb fod yn afrywiog. Ni all neb eu darllen heb gael ei foddhau.

Nid oes neb, wedi eu clywed, a ammheua gywirdeb rhagfynegiad ei hen athraw barddonol, Twm o'r NANT, am dano er's tros hanner can mlynedd yn ol, yn ol manteision y genedl y pryd hwnw, sef, ei fod yn ei ystyried yn un o'r Beirdd ieuainc mwyaf gobeithiol yn Nghymru.

Y mae y Gwaith hwn yn dangos dedwyddwch mewn disgyn iad buan at enaid pob testun y cenir arno. Yn hyn y mae yn tra -rhagori ar nifer o'r Pryddestau meithion sydd wedi eu pynio ar gefn y wlad yn ddiweddar, y rhai sydd mor lawn o ryw fath o "wlith, a blodau , a ffrydiau, ac awelon, a thywyniadau , a nentydd, a gerddi, " a'r cyffelyb, nes y mae gwir farddoniaeth wedi cael ei chladdu yn hollol o'r golwg! Yn mha rai o honynt, wedi gwneud ychydig eithriadau, y ceir dwy linell gwerth eu hail adrodd ? Beth sydd yn eu cynnal i fyny heblaw canmoliaethau cardodedig? Nid ydym yn petruso dywedyd, fod gan yr hen Feurig aml englyn sydd yn fwy o bwysau yn nhafol gwir farddoniaeth, na channoedd o'r llinellau gweigion, trystiol, a orfolir gan gyfeillion, y rhai a addefant, wedi i ddyddordeb y