Tudalen:Diliau Meirion Cyf I.pdf/91

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Mae afar, galar, ac wylo—ar ol
Yr haelwych fwyn Gymro;
Porth tau i ddegau oedd o,
A'u tŵr pan fyddai taro.

Digoll y gwrandawai gwyn—trueiniaid,
Trwy hynaws gydymddwyn;
Noddfa gyda gwên addfwyn
Gai wan a llesg yn y Llwyn.

Ei fwrdd oedd rydd i feirddion—bob enyd,
Caent dderbyniad serchlon;
Mewn modd mwynaidd, llariaidd, llon,
E noddai awenyddion.

Ynad enwog, tarianog, tirionwedd,
Gwiwlad onestwr, gwelwyd e'n eistedd
Uwchlaw arswyd ar y wychawl orsedd,
Yn mrawdlys tirion Meirion mewn mawredd;
Deallus yn mhob dullwedd—gweithredai,
Diwg yr unai o du y gwirionedd.
Barn deg heb wyrni digus—ni phallodd,
A gu weinyddodd yn ogoneddus.
Mawr a gwrol mewn amryw ragorion
Ydoedd yr enwog wladyddwr union;
Ymddwyn at eraill wnai mewn modd tirion,
Ni fanai gilwg o fewn ei galon;
Och! arw saeth echrys weithion—ein prydferth
Gu awdwr mawrwerth sydd gyda'r meirwon!

Rhoed Iôr graslon gynnorthwyon
I'w wraig union, rywiog, anwyl,
A'i blant tirion fo'n gysurlon,
Gyda'r ŵyrion, gwedi'r arwyl.