MARWNAD H. REVELEY, YSW.
BRYNYGWIN, DOLGELLAU.
Un o brif Ynadon swydd Feirion, yr hwn a fu
farw Tachwedd 9fed, 1851, yn 79 oed.
YMDAENODD, lledodd trallodion—trosof,
Tra isel yw 'nghalon;
Clwyfwyd, merwinwyd fy mron,
Gan aethus gyni weithion.
Ingawl genadon angau—ergydiant
Eu rhwygiadol saethau;
Gwŷr mawrion, pigion ein pau,
Orfyddant i oer feddau.
Daeth chwerwder, blyngder, cur blin—oer, athrist,
Fel aruthrol ddryghin,
Sef noswyl, arwyl erwin,
Frwynawg, erch, i Frynygwin.
Y penteulu, trwm a fu'r traill—gwympodd,
E lwyr faluriodd i lawr fel eraill.
Profir yn mysg peryfon—hir aflwydd
Am Hugh REVELEY ffyddlon,
Arwr hardd yr orawr hon
Etto fwriwyd at feirwon.
Ein mwyn Yswain mynwesol—a gludwyd
I gleidir mynwentol;
Bydd treiddgar alar ar ol
Arch-ustus mor orchestol.