Yn llys barn lleisiaw y bu,
A'i lais ni cha'dd ei lysu;
Ei lais treiddgar, moddgar, mâd,
Beunydd a gai dderbyniad.
Arddelid ei wir ddilys
Eiriau llâd gan wŷr y llys;
Gnawd i bob gradd oedd addef
Eglurdeb ei burdeb ef:
Yn ben astud bu'n eistedd,
Enyd hir, fel Ynad Hedd,
A blaenawr llwyddfawr a llon,
Da'i nôd, i'w gydynadon;
Cawr o ddyn cywir oedd ef,
Teg wiwfryd, sad, digyfref;
Diornaidd bôr cadarnwych,
Caed erioed, yn cadw'i rych,
Gwae ni bawb gau yn y bedd
Ganwyll ynadon Gwynedd.
Prif ustus dawnus, diweniaith—ydoedd,
Yn adwaen y gyfraith;
Ni wyrai yn ei araith
At goegni na checri chwaith.
Barn addas bur weinyddai—cyfiawnder
Cu fwyndeg a fynai;
Derbyn wyneb neb ni wnai,
Am wiredd yr ymwriai.
Mewn iach hwyl mynai chwilio—i'r eithaf,
Bob rhaith a ro'id ato;
Er diles iraw dwylo
Ar y fainc, ni wyrai fo.