Tudalen:Diliau Meirion Cyf I.pdf/99

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

GWERTHFAWROGRWYDD Y GAIR

Gair Duw Iôr, gwir diwyro—sy'n llusern
Llesawl i'n goleuo,
Wrth ei wawl pelydrawl o
Mae'r doethion am wir deithio.


Puredig arf ysprydawl—cry' astalch
I'r Cristion milwrawl,
Cleddyf prydferth a nerthawl
Yw Gair Duw, a gur y diawl.


Gair Iesu, ein Duw grasawl—drwy'r oesoedd,
Sy'n drysor annhraethawl;
Drwyddo caid bendigaid wawl
I ddynion anhaeddiannawl.


Dengys yn ysbys i ni—yn dorfoedd
Ein dirfawr drueni,
A'n Ceidwad ddaeth i'n codi,
Mor rasol i freiniol fri.


Yn unawl parchwn ninnau—ei ddethawl
Ddoethaidd addysgiadau,
Didawl fo'n myfyrdodau
Yn Ngair pur ein Modur mau.

Yn y farn y Gair hwn a fydd—clirwych
Deg glorian y Barnydd;
Ofnwn, gan wneud iawn ddefnydd
O'n tymmor cyn delo'r dydd.


Astudiwn o'n wastadol—a llefwn
Am y lleufer nefol,