Tudalen:Diliau Meirion Cyf II.pdf/16

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

A'i wraig hawddgar lon buredig ei bron,
O lin y Mostyniaid doeth hardd-blaid daeth hon;
Fe genfydd ein gwlad lwys odiaeth lesâd,
Gwir roddiad gwawr addas gweinyddwyd priodas,
Mewn urddas i bwrpas heb wad;
Preswylwýr ein pau sy'n hoff lawenhau,
A’u llefau'n dra llafar gyson-gu a seingar
Yn cerddgar bur hawddgar barhau.

Mae Fflint a Meirionydd 'run elfydd yn awr,
Llawenydd cantorion sain fwynlon sy'n fawr,
Am fod eu blaenoriaid gwawr euraid gwir yw,
Mal cedyrn golofnau da 'u graddau deg ryw,
Yn addfwyn eu nod a rhiaidd dàn y rhod,
A’n genau cyd ganwn, O c'lymwn eu clod;
Mae rhîn eu mawrhad gwybyddir heb wad,
Mewn cariad yn cyraedd dawn rhediad anrhydedd
Uwch bonedd arglwyddaidd pob gwlad;
Cyd-oesi mewn hedd y b'ont hyd eu bedd,,
Uniawn-wedd yn Nannau a'u hil ar eu holau,
Fel lliwgar rosynau ar eu sedd.

CAN

Ar ddyfodiad R. W. VAUGHAN, Ysw.
(mab i'r diweddar Farwnig)
i'w oed Mehefin 25ain, 1811.
Mesur:—Priddgalch Gwyn (White Chalk.)

De’wch hyfryd—lon fawrddysg feirddion,
Camrau dewrwych Cymru dirion,
Dewisolion da eu swydd,
Peroryddion a cherddorion