Tudalen:Diliau Meirion Cyf II.pdf/22

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Caf weld rhyfeddodau ugeiniau'n ddigel,
Pan ddelwyf i Eifion, gwlad meillion аa mel,
Ac eistedd ar fryndir uwch glasdir y glyn,
I ddarllen di—lediaith deg waith DU A GWYN.


GALAR-GERDD

Am Mr. RICHARD JONES, Llwyngwril,
yr hwn a fu farw Chwefror 18fed,
1853, yn 73 mlwydd oed.

Ton:—Fy Anwyl Fam fy hunan,

O ! angau pa'm yr aethost ti
Yn elyn i ddynoliaeth?
Ai trosedd Addaf, ydoedd ben
I'w had yn Eden odiaeth,
Fu'n achos iti ar y llawr
Fwriadu 'th fawr ddifrodaeth?

Dinystrio wnest holl ddynolryw
Fu ’rioed yn byw a symud !
Neb, neb ond dau flynyddau'n ol
Gadd yn ddiangol ddiengyd,
Rhag dioddef marwol ergyd caeth
Dy dreiddiawl saeth ddychrynllyd.

Yn fynych ar ein gyrfa frau
Yr wylwn ddagrau heli,
Am fod cyfeillion gwiwlon gŵyl,
A cheraint anwyl ini,
Yn cael o hyd gan angau mawr,
Eu tori i lawr i'w beddi,