Tudalen:Diliau Meirion Cyf II.pdf/25

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon
Y LLYSFAM DDRWG.
Gan GUTYN EBRILL.
(Teimlad geneth ymdilifad.)
Ton:—Yr Amser gynt.

Fy nghyd ieuenctyd d'owch yn rhes,

I wrando ' m hanes I,
A'r hyn a wna fy "Llysfam" ddrwg,
Un lawn o ŵg yw hi.

Yr oeddwn gynt yn eneth lon

A’m pwys ar fron fy mam,
Mawr ydoedd ei gofalon hi
Rhag byth i mi gael cam.

Yn morau f'oes hoff chware' wnawn,

Ni chawn un adeg chwith,
Cawn " ddòli " fach a blodau fyrdd
Wrth rodio ffyrdd y gwlith.

Gofalai mam am danaf fi

O gyrau 'r lli ' a'r llaid,
Hi'm dysgai i fynd o gam i gam
I edrych am fy nhaid.

Hi wnaeth fy 'fforddio lawer tro Do, do yn llyfyr Duw, Yr hwn sy etto ar ei hol Yn rheol imi 'fyw.

Ond, galar yw adgofio hon, Y fron sy 'n mynd yn friw; Er maint a wylaf ar bob cam Fy anwyl fam nid yw;