Tudalen:Diliau Meirion Cyf II.pdf/33

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Cadwasom ein hiaith, yn gryno ddi-graith,
Coleddwn, cawn lwyddiant—cawn dànau, cyd-dynant,
Cawn gariad, cawn geraint, cawn feddiant fo faith,
Cawn fwynder, cawn fudd, o'i dilyn bob dydd,
Cawn lonach llawenydd—dawn wyneb dywenydd,
Cawn bob nos ryw newydd, mae'î rhyddid yn rhydd.

I dad y gymdeithas sydd gynes ei gwedd,
Boed iechyd a llawnder, da fwynder hyd fedd;
I'w llywydd boed llwyddiant, a ffyniant i'w ffydd,
I gynal iaith Gomer, hardd, dyner bob dydd;
O gwyliwch rhag gwall rhwysg balchder heb ball,
Y gelyn dig'wilydd rhydd floesgni a Seisnigrwydd,
Heb wrido mae'n w'radwydd i'r celfydd ddyn call;
Gwell cynal rhag cam-iaith fwynaidd eich mam,
Iaith Gomer a gym’rwyd i'ch rheoli ar yr aelwyd,
Mewn moethau eich maethwyd, a rhoddwyd hi i'ch rhan.

Yn awr fy nghyfeillion, wyr dewrion mewn dysg,
Chwennychwn i chwi lawnder a mwynder i'ch mysg,
Cael telyn a thannau a mwynder y’mhob modd,
Areithio Cymreigyddiaeth yn berffaith o'ch bodd;
Meddyliwch bob tro am fryniau'ch hen fro,
Sefgwlad eich genedigaeth sy'n llawn cymreigyddiaeth,
O'i herwydd boed hiraeth da glanwaith dan glo;
Tra llywydd a llen cyd bynciwn bob pen,
Cyd—ganwn ddigonedd—wir felus orfoledd,
Cymraeg hyd y diweddwyr mwynedd, Amen.


ENGLYNION
I GAERLLEON GAWR

Gwyr lluoedd am Gaerlleon,—urddunawl
Hardd ddinas y Brython,