Prawfddarllenwyd y dudalen hon
Gwraig ddestlus hwylus hoywlon—am orchwyl,
A merched cariad-lon:
A thêg yw coffa'r waith hon
Am rinwedd y morwynion.
Rhai eirioes o'r rhyw orau—di-soriant
A siriol wynebau;
Haeddant dan rhod glod yn glau
Gwiwrwydd, mewn mwyndeg eiriau.
- ENGLYNION
I FEIRCH A GWAS Y RHIWLAS.
A gyfansoddwyd gan y Bardd wrth gael ei gludo gan
ddynt i Lanuwchllyn yr 17eg o Fehefin, 1853.
Rheolaidd i feirch y RHIWLAS—heb ballu
Gwnaf un pill o bwrpas,
Tri englyn gwedyn i'r gwas,
A nyddaf mewn trefn addas.
Meirch gwiwdeg, mawr-wych egwydydd—tynant
Nes tanio'r palmentydd;
Carlamant, rhwygant yn rhydd
A ffrystiawl drwy 'r fforestydd.
Sion William sy iawn hwyliwr—a gwympaidd
Gampus bedrolfenwr;
Da was, doeth, sobr di ystwr,
A gwaraidd bwyllog yrwr.