Tudalen:Diliau Meirion Cyf II.pdf/37

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Ni chrogir yn Meirion ddim lladron rhag llaw,
Na chreulon, anbirion lofruddion dan fraw—
Alltudir hwy bellach fel bawiach y byd,
I ganol gwlad estron, yn gaethion i gyd.

Ebrill 25, 1858.

ENGLYNION

MISS MARY RICHARDS, am ei dewrder yn dàl drwg weithredwr ydoedd wedi tori cloau, ac ar ddianc allan, yn Ngharchardy Dolgellau.

Mwy o orchest a wna merched—lliwgar
Fo'n llygad agored;
Pellach heb gel gwnant weled
Na rhai meibion gwreiddlon gred.

Mair enwog a'i mawr rinau,—wech eurdeg
Carchardy Dolgellau,
Haeddai hon glod heddyw'n glau
Gan ddynion âg iawn ddoniau.

Di-ball y chwiliodd allan,—ddichellion
Erchyllig leidr aflan;
A'r modd 'dyfeisiodd y fan
I ddiengyd yn ddi-yngan.

Mair landeg, ffriwdeg a ffraeth,—ddillynaid
A llawn o wybodaeth.
Canfod, ac adnabod wnaeth,
Ei fwriad drwg a'i fariaeth.