Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto
41
Llais eu mawl pêrseiniawl sydd
Yn alaw drwy'n heolydd.
Y “ Clwb Du , ” ni bu yn bod - ei wychach
I ochel drwg meddwdod ,
Lleshad mawr, rhwyddfawr dàn rhod ,
Drwyddo'n bur, dreiddia'n barod .
Mòr wiwlwys mae ei reolau — dinam ,
Yn dwyn yr aelodau,
Er llwydd i bur rhwydd barhau
Yn frodyr un fwriadau .
Bydd i'r dorf yn drysorfa - hael ethawl
Helaethwych i'r eitha',
Aur yn dwr ac arian da
Heb omedd, gaiff pawb yma.
Mewn bri mawr bob awr у bo , -gan addas
Gynyddu a llwyddo,
Naws degwedd, nes diwygio
Holl feddwon, y freinlon fro .
ENGLYNION
Ar ddyfodiad Miss MARY JONES, âeres yr Hengwrt
Uchaf i'w hoed, y 15ed o Hydref, 1840.
Wele ! newydd ddydd a ddaeth - yn wiwdeg
I wneud coffadwriaeth ,
D2