Tudalen:Diliau Meirion Cyf II.pdf/44

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

42

O degwych enedigaeth
Ac oedran, hoff rïan ffraeth .

MAIR wen yn ngwlad Meirionydd,-ni welwyd
Anwylach merch ddedwydd,
Mair dêg ! hawddamor i'r dydd
Eich ganed — mawr fo'ch cynydd .
Cofier mil wyth cant cyfan -- a deugain

Mewn da agwedd seirian ,

?Pymthegfed dydd, gloywddydd glân,
O Hydref, daeth i'w hoedran .

Llwydd i chwi, aa bri ger bron ,-a phriod
Hoff rywiawg a thirion,
A phlant hawddgar, lliwgar llon --Siriol, ac iachus wyrion .

DAU

ENGLYN

I ddwy ferch y diweddar Mr. J. JONES, Skinner,
Dolgellau.

Hynaws, a theg yw Hana ' — hoff anwyl
Un ffunud ag “ Efa , "
A chafodd Ann, ddiddan , dda

Synwyr uwchlaw “ Susana.”

Gweddaidd, arafaidd wyryfon - di-dwyll
Nodedig o ffyddlon ;
Dwy chwaer hawddgar, liwgar lòn,
Firein -wych. heirdd forwynion .
1

1