ANERCHIAD
A chyngor i Miss LORA GEIFFYDD, ar ei mynediad
i'r America o Ddolgellau , Ebrill 10ed, 1853.
Mesur -Morwynion glan Meirionydd.
Ffarwelio rwif a chalon brudd
A Lora Griffydd dirion ,
Sy'n mynd hyd ehwyddawg frigawg frau
Ymwriawl donau mawrion ,
Yn rhian ffraeth , er gwaeth er gwell,
I Feric bell o Feirion.
Dymunwn iti ar dy daith
Oreudeg berffaith rwydeb ,
Na foed i dwrf na chynwrf chwâu
Gorwendòn , na gerwindeb
Ystormydd trymion o un rhyw
Edwino lliw dy wyneb.
A phan gyrhaeddych ben dy daith ,
Dy fuddiol waith a fyddo
Ymwasgu â chyfeillion gwâr
A wnel dy gyfarwyddo,
A'th arwain i gynteddoedd cu
Diogel dỹ Duw Iago.
Bydd yn ochelgar nos a dydd,
Ti ddylit beunydd wylio
Rhag myned i gyfeillach wael ,
Ac felly gael dy hudo
I adael tý a gwaith dy Dduw
A'i gyfraith wiw yn ango'.
Tudalen:Diliau Meirion Cyf II.pdf/46
Neidio i'r panel llywio
Neidio i'r bar chwilio
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto
