46
Pa Ann , na pha Susan sydd
Mor enwog yn Meirionydd :
66
Meddyliodd Ann Jones am Ddiliau - Meirion, ”
A mawr ymdrechiadau
Y mêl glân a gluda'n glau
I'w chegin , lon'd ei chawgiau .
Da iawn Ann, gwnest wasanaeth - i filoedd,
Cei felus ganmoliaeth ;
Dilys caiff pawb drwy'r dalaeth
Foliau llawn o fêl a llaeth .
Golud, a llwyddiant gwiwlon - a gaffych
Gu, hoffus, fun dirion,
A byw'n dêr ddi-brudd -der bron,
Deiroes uwch Aberdaron .
ANERCHIAD
I Mr. David MORRIS DAVIES, nai o fab chwaer
i'r awdwr.
Difeth it' fy nai Dafydd , -- ddi-anglod
Gwnaf ddau englyn newydd ;
Nodaf a d'wedaf y dydd
Dy anwyd, mewn dywenydd.
Mis Ebrill chweg, y degfed — oedd y dydd,
(Hawdd yw dweyd) y'th ganed,
Yn faban gwiw -lan, bu'n ged
Wiwlon , i’th fam dy weled.