Tudalen:Diliau Meirion Cyf II.pdf/50

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto



ETTO , I FERCH FECHAN MR. JONES

Dor thy Jane, wiwlan ni welwyd - gwynach
Geneth pan y'th ganwyd ;
Gwridog a hawddgar ydwyd,
Eulun ail i “ Elen ” wyd.
Dy glod ar hyd y gwledydd — a daena
"

Pob dawnus ymwelydd ;

Glendid Mon, a Meirionydd
Ynod , heb ddim sorod sydd,
O mòr deg y'moreu d'oes — yw'th aeliau
A'th olwg diớyrgroes
Pwy fedd serchlon , fwynlon foes

Nath gar, enethig eirioes.
DAU ENGLYN
I enhuddo digofaint Meistri R. JONES, (Robin Awst,)
a GRUFFYDD SIENCYN AP IEUAN, Fferyllwyr,
Towyn , Meirionydd.
Hoff, wir, ollawl Fferyllydd — yw Rhobert
Wr hybarch di-eilydd,
Cyflawn iachâd, rad, a rydd
I afiach ddioddefydd .

Ffraw wella'n swydd fferyllydd , -mae Ifans
A myn'd mwy -fwy clodrydd,
Coel-fawr brif Ddoctor celfydd,

Ar y fainc cyn hir a fydd.
ATTEBIAD .

Diolwch gwir a dalwn - i Feurig
A'i fawredd fynegwn ;
Ei glod ar led a gludwn ,

Modd hawdd yw “ madda " i hwn .