Tudalen:Diliau Meirion Cyf II.pdf/53

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

51

Dyma waith pur di-guro - a bery
Heb arwydd llychwino ;
Yn “ Shop newydd " bydd tra bo
Gwawr araul , i'w goreuro .

Gwaith cnapiog, caerog cywrain - na luniwyd
Ei lanach yn Mrydain ;
Rhyfedd os gwnaed yn Rhufain
Na Ffrainc chwaith , gerf-waith mòr gain .

Ceir edrych drwy'r cywir wydrau - gwympawg
Ar wir gampus nwyfau,
Yna gwelir yn y golau

Ar ddisgleirwych , glir-wych gloerau,
Syw a dinam , heirdd sidanau ,
Bur waith union, a brethynau ,
Bliant meinion, loywon liwiau,
Ceinion, mwythion, o bob mathau,
Mawr ethawl amrywiaethau --- rhai gwladaidd
A rhai euraidd o'r rhyw oreu.

CYFARCHIADI

R ..N. HARTLEY, Ysw. , o'r Llwyn, Llywydd y Gym
deithas Feiblaidd , &c., yn Nolgellau.
Rhoddwn glod oddiar wybodaeth — deilwng
I'n di-halog benaeth ;
Y blaenor, heb elyniaeth ,
Yn llaw Duw, i'n llywiọ daeth .

Lywyddu mewn lle addas - yr ydych
Wir odiaeth gymdeithas ;