52
Harddwych, a mawr ei hurddas,
Dìr yw, a'i tharddiad o ras.
Cymdeithas y cymdeithasau --- doethaf
Yw'r gymdeithas feiblau ;
Ei gwawl rhwydd sy'n eglurhau
Seirian ddwyfol drysorau.
Pob calon fo 'n ymloni - a grasol
Gariad gwresog atti ;
Të blwydd ei Jubili—i bob gwlad
Gofio 'i dylanwad , gafwyd eleni .
Prif wron , rhadlon a rhydd - ddawn helaeth
Yw'n hylaw gadeirydd,
A'i galon mòr serchlon sydd
Yn chwenych gweld ei chynydd.
Chwi ydych am ei chodi-i'r entrych
Ar wynt eich haelioni ;
O'ch gwirfodd yn ymroddi
Gyda sel i'w harddel hi.
Mewn modd prydferth ymnerthwch - yn gadarn
A gwiwdeg hyfrydwch,
O'i phlaid yn ëon , a filwch ,
Heb wyraw o bybyrwch.
Mor wych yw'ch bri, mawrhewch eich braint,-llwydd
wch
Nes eich lluddio gan henaint ;
A'ch rheol fal eich rhiaint
Fu'n enwog swyddog i'r saint.