54
Lle rhydd a'i 'wenydd wiwnod - yn fedrus
I'r anfeidrol Drindod
Dragwyddawl, ryglyddawl glod
Seirian, yn bur ddi-sorod.
Mòr llon ! yn mhau'r llawenydd — efo'r saint
Rif y ser ysplenydd,
Yw enaid y duwinydd
Uwch yr haul, yn iach a rhydd !
MEURIG EBRILL
Dàn ergydion gwefr-beiriant Mr. J. REES, Oriorydd,
Machynlleth , y 13eg o Awst, 1853 .
Doeth ddyfais hyd eithafion - gwir ddi-dwyll
Gyraeddiadau dynion
A gafwyd, bydd hir gofion,
Ar sedd, am gawri 'r oes hon.
Dynion a gyrch wefrdanau - i'w lloches
A'u llachar beirianau ;
Uthr wreichion , gwyrddion , yn gwau
Ganfyddir, drwy gain foddau .
Fflamawg, a berwawg beirian - Sion ap Rhys
Sy'n parhau'n wefrdan ;
Melltenawg, a deifiawg dân ,
Deryllaidd, dery allan .
Tywynboeth beiriant enbyd,-eresawl
A roes imi aml ergyd,
Minau a aeth mewn munyd
Dyn a'i gŵyr, yn dán i gyd !