57
Buan gwna dyddiau bywyd - fynd heibio ,
Tebyg ynt i freuddwyd ;
Dysgwn, nac oedwn, i gyd
Eu rhifo ’n gywir hefyd.
Pwy a gred fyred fu oriau — f'einioes,
Terfynawl funydiau,
Megis cam yn ddiamau
Yw bywyd dyn , briddyn brau.
Cell fadryd, bydryd y bedd - pryfedawg
Prif adail y llygredd,
Yw 'r gwely oer a gwaeledd
Wyf ynddo'n huno, mewn hedd.
Er i Risiart hir oesi - yn esgud
Ddyn ysgafn a heini ;
Yn y llwch dàn y llechi
Ei guddio wnaed o'n gwydd ni.
Borau'r farn gadarn ei gwedd - gadawant
Ogo' dywell llygredd,
Duw Ior ei hun awdwr hedd
A'u cyfyd fry o'u ceufedd.
Yn forau i bau y bedd - disgynais,
Dysg genyf wers ryfedd ;
Daw'r rhai cryfa, gwycha'u gwedd
Yn weiniaid i'r un annedd.
Gorweddaf, hunaf enyd — yn y bedd
Heb un boen na thristyd,