Tudalen:Diliau Meirion Cyf II.pdf/60

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

58


Hyd forau caf f'adferyd,
Mewn bythol, anfarwol fyd.

Fy annedd yw'r bedd gwybyddwch — chwithau
Y'ch weithian mewn harddwch ,
Bob graddau, diau deuwch

Yn bydriaid i'r llaid a'r llwch.
Dyma fedd llariedd wr llon - hynawsaidd
Fu 'n oesi ' n heddychlon ;
A'i geinwych wraig deg union - sy'n gorwedd
Yma mòr waelwedd yn mhau y marwolion.

Edrychwch, gwelwch yn y drych golau,
Rho'f i chwi arwydd er rhifo’ch oriau ;

Yn feirwon byddwch fory ' n y beddau
Yn llawr y fynwent y lle'r wyf finau,
Daw engyrth ddyrnod angau - i'ch gorfod,
A'ch dwyn yn llychod, gewch dan y llechau !

Yma gorwedd myg eirioes - wych hylwydd
Uchelwr di-ddrygfoes ;
Un llongar fu'n llawn gwirfoes
Tra enwawg trwy ei einioes.

Dyma fedd gwr rhinweddawl - hynawsaidd,
Fu'n oesi'n grefyddawl ;
Duw Ior o'r llwch daearawl

A'i cyfyd i fyd o fawl.
Ow ! Ann bach ! ai yn y bedd,-oer haddef
Y rhoddwyd di i orwedd ?